Croeso i dudalen dosbarth Blwyddyn 6 Mr Llewelyn. Mrs McCue sydd gyda ni bob am yn ail dydd Iau a Mrs Bowen sydd yn ein cynorthwyo gyda'n dysgu!
Rydym yn ddosbarth o 24 ac rydym i gyd yn blant croesawgar, brwdfrydig sy'n barod i weithio i'n llawn botensial. Ar ddechrau pob ymholiad rydym fel dosbarth yn penderfynu beth hoffem ddarganfod trwy ofyn cwestiynau ymholgar, gwahodd arbenigwyr i'r ysgol a threfnu tripiau addysgiadol!
Rydym yn ffodus dros ben ein bod ni fel dosbarth yn ffrindiau gofalgar ac rydym yn mwynhau cymdeithasu gyda'n gilydd drwy'r Gymraeg. Fel plant hŷn yr ysgol rydym yn deall pwysigrwydd fodeli werthoedd yr ysgol i holl blant yr ysgol.
Bydd angen gwisg ymarfer corff ac esgidiau addas pob dydd Llun
Byddwn yn treulio pob am yn ail ddydd Iau tu fas yn yr ardal allanol felly sicrhewch eich bod yn gwisgo'n gynnes ar y diwrnodau hyn!