Menu

Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Ymdrech a lwydda

Croeso

Hanes yr ysgol/ School History

Hanes yr ysgol

 

Ysgol Gymraeg Dewi Sant oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gael ei chynnal gan unrhyw Awdurdod Addysg. Sefydlwyd yr ysgol yn 1947. 34 disgybl oedd yn ysgoldy Seion ar y bore cyntaf o Fawrth 1947 ond bellach mae 450 o ddisgyblion yn yr ygsol ac mae`n darparu addysg o safon uchel trwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion yn nhref Llanelli. Cyflwynir y Saesneg i ddisgyblion o flwyddyn 3 i fyny. Er bod bron 90% o`r disgyblion yn dod o gartrefi di Gymraeg mae yr holl ddisgyblion yn trosglwyddo i`r ysgol uwchradd yn gwbwl ddwyieithog. Ysgol hapus a chyfeillgar yw Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Nododd adroddiad ESTYN :-

“Mae Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn ysgol dda gyda nodweddion rhagorol."

 Cynigir ystod amrywiol o brofiadau allgyrsiol cyfoethog ac mae hyn yn gymorth mawr i baratoi y disgyblion i fod yn unigolion aeddfed a chyfrifol sydd yn parchu eraill a`u treftadaeth Cymreig. Pleser o`r mwyaf ydy estyn croeso cynnes i chi i Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi er lles a budd addysgol eich plentyn.

Welcome to our school website

 

Welcome to our  school website at Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Ysgol Gymraeg Dewi Sant was the very first Welsh medium primary school in Wales to be supported by any Local authority . The school was established in 1947. There were 34 pupils present on the First day of March 1947 when the school opened it’s doors at Seion Chapel Schoolroom. By today there are over 450 pupils and the school provides education of the highest standard through the medium of Welsh for pupils living in the town of Llanelli. English is introduced to all pupils from Year 3 onwards. Although nearly 90% of our pupils come from non Welsh speaking homes all our pupils are totally bilingual when they transfer to the secondary school. Ysgol Gymraeg Dewi Sant is a very friendly and happy school. ESTYN’s report in described the school as:-

“Ysgol Gymraeg Dewi Sant is a good school with excellent features”

The school offers a variety of valuable extra curricular experiences and this helps to prepare the pupils to become responsible and mature individuals who respect each other and respect their Welsh heritage. It is with great pleasure that I welcome you to Ysgol Gymraeg Dewi Sant and as school staff we look forward to working with you for the educational benefit of your child.

Top