Menu

Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Ymdrech a lwydda

Croeso

Croeso / Welcome

Croeso'r Pennaeth
 

Croeso i chwi i Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Mae Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn ysgol hapus, bywiog a chroesawgar lle gwelir pawb yn cyd-weithio i ddarparu amrywiaeth o brofiadau ac ystod o gyfleoedd  gyda’r nod o osod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol pob plentyn.

 

Ysbrydolwn ein disgyblion trwy gyflwyno cwricwlwm eang a chyffrous. Ein nod yw i annog pob disgybl i feithrin hunanhyder yn eu gallu personol: mae gennym ddisgwyliadau uchel sy’n rhoi pwyslais ar bawb i geisio eu gorau glas.

 

Mae plant yn dysgu orau pan yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel felly mae holl staff yr ysgol yn ymroddedig i gefnogi’n disgyblion a’u teuluoedd i sicrau eu bod yn barod ac yn abl i ddysgu.  Anelwn at sicrhau fod profiadau dysgu’r disgyblion yn berthnasol, cyffrous a phwrpasol ac wedi eu seilio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol.
 

Mae yna 18 o athrawon a dros 18 o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
 

Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon a chefnogi digwyddiadau o fewn y gymuned.

 

Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.

 

Mrs Helen Garland

Pennaeth Dros Dro

 

Headteacher's Welcome
 

Welcome to Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Ysgol Gymraeg Dewi Sant is a happy, lively and welcoming school where everyone works together to provide a variety of experiences and wide ranging opportunities with the aim of laying firm foundations for every child’s future.

 

We inspire our pupils through a varied and exciting curriculum. Our aim is to encourage every pupil to believe in themselves and in what they can do; we expect our pupils to achieve their very best in everything they attempt.
 

Children learn effectively when they are happy, safe and secure, therefore all staff are committed to supporting pupils and their families to ensure children are ready and able to learn.  We aim to ensure that children’s learning experiences are relevant, exciting and purposeful and underpinned by the rigorous development of basic skills.
 

There are 18 teachers and over 18 support staff working in the school. The team is enthusiastic and works conscientiously to raise standards and continually improve the school.

 

We take pride in the high standard of achievement at the school and the wide range of extra-curricular activities is also important to us, with pupils experiencing success in a variety of fields from the Urdd eisteddfod to sporting activities and working within the community.

 

Our aim is to develop the whole child and to create a safe, happy and Welsh environment so that we can ensure the best of our heritage and culture is safeguarded and developed in the years to come. Read on for more information and to experience the ethos of this vibrant and busy school.

 

Mrs Helen Garland

Acting Head Teacher

Top